Expert outreach/Wicipediwr Preswyl y Llyfrgell Genedlaethol

From Wikimedia UK
Jump to navigation Jump to search

ENGLISH

NLW image collage with Wiki logo.png

Ers 19eg o Ionawr 2015, mae Wikimedia UK a'r Llyfrgell Genedlaethol wedi bod yn cydweithio ar brosiect i ddatblygu adnoddau, ffeiliau digidol a mathau eraill o wybodaeth ar drwydded agored. Bydd y prosiect hefyd yn ceisio ehangu a gwella'r mynediad i'r wybodaeth a gedwir gan y Llyfrgell. Bydd y Wicipediwr Preswyl yn canolbwyntio ar y gwaith hwn ac hefyd yn hwyluso rhaglen o ‘Editathons’ a gweithdai staff. Mae'r prosiect hwn yn cydfynd a'r pwyslais ar bartneriaethau diwylliannol a chymorth arbenigol gan Wikimedia UK. Amcan y dudalen hon yw ysgogi trafodaeth a darparu gwybodaeth am brosiectau cyfredol a phrosiectau posib ar gyfer y dyfodol yn sgil y cydweithio rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a Wikimedia. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn ddigwyddiadau a drefnwyd gan Wikimedia yn y LLGC, neu gyfrannu at gymuned Wikimedia yng Nghymru, mae croeso i chi gysylltu â'r Wicipediwr Preswyl Jason Evans


Nodau ac amcanion

Bydd y cyfnod preswyl yn parhau am flwyddyn gyda'r nod o godi pontydd parhaol rhwng y Llyfrgell a Wicipedia. Bydd y Wicipediwr preswyl yn cydweithio'n agos gyda staff y Llyfrgell i hwyluso rhyddhau casgliadau digidol dan drwyddedau agored i'w defnyddio ar Wicipedia a mannau eraill. Yn ogystal, bydd ffocws ar wella cynnwys Wicipedia drwy gynnal cyfres o ‘Olygathonau’ (Editathons). Hefyd bydd cyfres o weithdai ar ddefnyddio a golygu Wicipedia yn cael eu cynnig i bob aelod o staff.

Trwy gefnogi a chyfranogi yn natblygiad adnodd sydd â phroffil mor uchel, bydd y fenter hon yn cyfrannu at gyflawni ein hamcan o ddarparu 'Gwybodaeth i Bawb' ac yn ei dro yn denu pobl yn ôl at wasanaethau a chasgliadau’r Llyfrgell.

Gweithgareddau

Wrth i'r cyfnod preswyl fynd yn ei flaen bydd log o brosiectau neu ddigwyddiadau sy'n cael eu trefnu, cyfraniadau sydd ar y gweill, a chyfraniadau sydd wedi'u nodi ar gyfer y dyfodol, yn cael ei ddiweddaru yma. Rwy’n annog pob defnyddiwr Wikimedia, yn arbennig y rhai yng Nghymru, i gysylltu â mi unrhyw bryd gydag awgrymiadau neu gynigion i helpu!

  • Mae rhestr o dros 5000 o erthyglau Gymraeg efo Geotags, ond heb ddelweddau, wedi cael ei greu yma. Y nod yw defnyddio'r rhestr hon wrth hyfforddi staff a gwirfoddolwyr i olygu ac ychwanegu delweddau at Wici. Hefyd mae yna gyfle i gynnal digwyddiad penodol i ychwanegu delweddau i’r erthyglau hyn. Chwefror 2, 2015

Prosiect Wicipop

Gyda chymorth grant gan Lywodraeth Cymru ac mewn cydweithrediad efo Wikimedia UK, bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn dechrau ar brosiect 3 mis o hyd, i hyfforddi golygyddion i greu a gwella erthyglau Wicipedia am gerddoriaeth a'r diwylliant pop Cymraeg. Y nod yw creu 500 o erthyglau newydd trwy rhaglen o digwyddiadau, partneriaethau cynnyws a data a prawf efo awtomeiddio creu cynnwys o data. Mae modd dilyn y prosiect ar ein tudalen Wicibrosiect. Dyma ragor o lincs perthnasol.

Delweddau ar Comin

Gall gweld yr holl delweddau mae'r Llyfrgell wedi rhannu gyda Wikimedia yma

Prosiectau Gwirfoddoli

Gall gweld cofnod o brosiectau a chynhaliwyd efo'r tîm gwirfoddoli'r Llyfrgell yma

Golygathonau

Ysgolheigion Preswyl

Ym Mawrth 2016 Y Llyfrgell Genedlaethol oedd y corf cyntaf ym Mhrydain i hysbysebu am Ysgolheigion Preswyl Wicipedia o dan gynllun y Wiki Education Foundation. Gallwch ddylyn y prosiect yma

Adroddiadau misol

12-month-review-copy-welsh.png

Sylw yn y Wasg

2015


Yn dilyn darganfyddiad o fersiwn anhysbys o'r Anthem Genedlaethol Cymru wrth baratoi adnoddau ar gyfer y Golygathon Y Wladfa, gaeth y darganfyddiad, y digwyddiad a fy mhreswyliad yn gyffredinol, sylw sylweddol yn y gwasg.

  • Cyfweliad 3 munud - BBC Radio Cymru (Cymraeg), 17 Mehefin 2015.
  • TV Interview - S4C. Newyddion 9, 17 Mehefin 2015.
  • Cyfweliad 3 munud - BBC Radio Wales, 18 June 2015.
  • Blog ar gyfer Cylchgrawn ar-lein BBC Cymru Fyw- (Cymraeg) BBC News, 18 Mehefin 2015.
  • Erthygl – Gwefan BBC News (Mid-Wales), 18 Mehefin 2015.
  • Erthygl – Wales Online Website ,19 June 2015.
  • Erthygl – Western Mail ,19 Mehefin 2015.

2016

  • 15 Ionawr 2016 - Cyfweliad Radio am penblwydd Wici a hanes y Wici Cymraeg – Post Cyntaf, BBC Radio Cymru
  • 15 Ionawr 2016 - Darm Teledu ar y digwyddiad Wikipedia15 yn y LLGC. 'Heno', S4C.
  • 19 Ionawr 2016 - Cyfweliad Radio am Wikipedia a gwaith y Wicipediwr Preswyl. THIS Radio (Student radio at Liverpool Hope University)
  • 9 Chwefror 2016 - Erthygl Wales Online Millions have seen these historic Welsh images a librarian has helped share on Wikipedia
  • 16 Chwefror 2016 - Cyfweliad Radio am rhannu hanes Cymro gyda'r byd trwy Wikipedia – Rhaglen Dylan Jones, BBC Radio Cymru
  • 20 Hydref 2016 - Cyfweliad Radio am y Wikidata sydd wedi eu greu ar gyfer llongau Aberystwyth. - BBC Radio Cymru
  • 17 Tachwedd 2016 - Cyfweliad Radio am yr angen i datblygu'r Wici Cymraeg er mwyn sicrhau dyfodol yr iaith Cymraeg yn yr oes digidol - BBC Radio Cymru
  • 8 Rhagfyr 2016 (08.00) - Cyfweliad Radio, Sgwrs efo Loys Cernyw am cydraddoldeb rhyw ar Wicipedia a'r golygathon BBC 100 Women - BBC Radio Cymru
  • 8 Rhagfyr 2016 (08.30) - Cyfweliad Radio, Sgwrs am cydraddoldeb rhyw ar Wicipedia a'r golygathon BBC 100 Women - BBC Radio Wales
  • 8 Rhagfyr 2016 (13.30) - Cyfweliad Radio, am cydraddoldeb rhyw ar Wicipedia a'r golygathon BBC 100 Women. - BBC Radio Cymru
  • 8 Rhagfyr 2016 - BBC 100 women 2016: Welsh women 'deserve much more'

2017

Blogiau

Cefndir

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Yn ôl papur a gyhoeddwyd gan y Llyfrgell Genedlaethol Cymru mae’r casgliadau yn cynnwys

  • 6 miliwn o llyfr, cylchgrawn, papur newydd a deunydd print arall
  • 25,000 llawysgrif (yr hynaf yn dyddio o 113 AD, ac yn cynnwys y llawysgrifau cynharaf yn y Gymraeg)
  • 2,500 casgliadau archifol
  • 1 miliwn mapiau
  • 40,000 o lluniau
  • 800,000 o ffotograffau
  • 5.5miliwn troedfedd o ffilm
  • 250,000 awr o fideo
  • 200,000 awr o recordiadau sain

Y Wicipediwr Preswyl

Wicipediwr (neu Wicipediwr) Preswyl yw Wicipediwr sy'n gweithio yn fewnol mewn sefydliad. Yn sylfaenol mae’r rôl yn ymwneud â galluogi’r sefydliad a'i aelodau i barhau perthynas gynhyrchiol gyda'r gwyddoniadur a'i chymuned ar ôl i'r cyfnod preswyl ddod i ben. Y nod yw hyrwyddo dealltwriaeth o brosiectau Wikimedia ymysg staff y Llyfrgell, yn ogystal â sefydliadau GLAM yng Nghymru yn fwy cyffredinol, drwy drefnu gweithdai a digwyddiadau. Mae Wicipediwr Preswyl hefyd yn gweithio gyda staff i ddigido, crynhoi, a threfnu adnoddau y gellir eu rhannu a chymuned Wikimedia.

Cyswllt

Cysylltwch efo Jason Evans drwy e-bost jje@llgc.org.uk neu gadewch neges ar fy nhudalen sgwrs Jason.nlw (talk) 09:57, 27 January 2015 (GMT)

Cyfeiriadau