Membership/cy

From Wikimedia UK
Jump to navigation Jump to search

Cymraeg | English

Join Wikimedia UK
Organisational MembershipOnline application formGet involvedApplication processMembership RulesNewsletterHelp


Mae ein haelodau'n rhan hanfodol o'n digwyddiadau a chroesawn bawb sy'n cytuno a'n hamcanion i ymuno â ni.

Sut rydych yn elwa

  • Rydych yn cefnogi ein hamcanion a'n gwaith
  • Gallwch bleidleisio yn ein Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol, ble etholir ein Bwrdd a ble derbynir cynigion ar reolaeth weinyddol
  • Gallwch wneud cais am nawdd ariannol (microgrants)
  • Gallwch ymuno a'n rhestr drafod ebost ac ymwneud â chynllunio digwyddiadau newydd a gwella ein polisiau

Cymwyster

Mae aelodaeth yn agored i bawb; nid oes raid i chi breswylio yng ngwledydd Prydain na bod dros rhyw oedran arbennig, na chwaith fod yn olygydd un o brosiectau Sefydliad Wikimedia. Y cyfan a ofynwn yw fod ein haelodau'n cefnogi ein hamcanion ac i beidio dod ag anfri arnom.

Mae'n hanfodol fod ein haelodau'n datgelu i'r Bwrdd eu henwau llawn a'u cyfeiriad, ond nid oes raid iddynt ddatgelu eu henw defnyddiwr ar unrhyw chwaer brosiect. Cedwir y data personol hwn ar Gofrestr Aelodaeth y siapter, ac fe'i dangosir i unrhyw berson a'i mynn, os oes ganddo reswm digonol dros wneud hynny. Os nad yw hyn yn dderbyniol gennych gallwch ystyried cyfrannu'n ariannol i'r siapter yn hytrach nag ymuno, a thrwy gyfrannu eich amser.

Tâl aelodaeth

Y tâl presennol yw £5 y flwyddyn. Ystyriwn y tâl hwn yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Gallwch gyfrannu arlein. Dyma'r dull a awgrymwn, ar y ffurflen syml a ddarperir ond ceir dulliau eraill, ac os dilynwch y ddolen uchod cewch wybodaeth amdanynt a sut rydym yn delio a'ch cais am aelodaeth ac aelodaeth corfforaethol. Os oes gennych unrhyw ymholiad pellach, cysylltwch â'n membershipatwikimedia.org.uk (Saesneg).