Cynhadledd WiciAddysg, 2013

From Wikimedia UK
Jump to navigation Jump to search

English | Cymraeg

NODWCH fod y gynhadledd hon wedi bod. Cedwir y dudalen hon fel archif o'r hyn a fu.

Cynhadledd WiciAddysg, 2013
yn: Future Inns, Bae Caerdydd
Dydd Gwener 1 - Dydd Sadwrn 2 Tachwedd 2013

Cydlynir gan: Toni Sant: toni.santatwikimedia.org.uk ar ran WMUK
Bwcio: agorir ym Medi 2013 - Cost: i'w gadarnhau (gan gynnwys ysgoloriaethau)
Cysylltwch gyda'r adran addysg: atwikimedia.org.uk, +44 (0)7885 980 536
Hashtag: #EduWiki #WiciCymru

Y wawr yn torri dros y Bae


Cynhadledd Addysg Cyntaf Wikimedia yng Nghymru
ac i gydfynd â hi...
WiciGyfarfod yn yr Urban Tap House am 6.30 Nos Wener y 1af o Dachwedd

Mae Taflen Amser y Gynhadledd i'w gweld yma

Cynhadledd WiciAddysg 2013 ydy'r ail gynhadledd wedi'i drefnu gan Wikimedia UK, a'r cyntaf yng Nghymru; bydd yn canolbwyntio ar brosiectau addysgol

Mae can croeso i chi gysylltu â Toni Sant (Trefnydd Addysg Wikimedia UK) neu Robin Owain, Rheolwr Cymru os oes gennych gwestiynau neu farn bersonol neu gadewch nodyn yma yn y man trafod.

Ynghylch Cynhadledd WiciAddysg, 2013

Pwrpas y gynhadledd hon yw dod a staff prifysgolion, ysgolion uwchradd a sectorau eraill at ei gilydd ynghyd â chymuned Wikimedia. Gyda'n gilydd byddwn yn ymchwilio i sut y gall ein prosiectau (megis Wicipedia) gefnogi gweithgareddau blaenllaw, newydd, cyffrous y dysgwr, drwy hyrwyddo llythrennedd ddigidol a chyffredinol a sgiliau pynciol. Law yn llaw a hyn gall ein cydweithrediad hyrwyddo dysgu am oes, am ddim ac yn rhydd o hawlfreintiau traddodiadol.

Mae'r niferoedd sy'n defnyddio ein prosiectau ar gynnydd yn enwedig fel llwyfanau ar gyfer aseiniadau addysgol ar Wikipedia Saesneg, Sbaeneg ac Arabeg. Ein bwriad yn ystod y blynyddoedd nesaf yw datblygu hyn yng Nghymru gyda'r Gymraeg. Pa wersi a ddysgwyd hyd yma mewn gwledydd eraill? Byddwn yn cael adborth gan y llygad-dystion yn y Gynhadledd!

Bydd themâu'r gynhadledd fel a ganlyn:

  • "Problem Fawr Wikipedia" - llenladrad
  • Ymarferion agored gyda chynnwys agored
  • Addysgwyr a chynhyrchwyr
  • Cynllunio ac asesu aseiniadau ar Wicipedia
  • Llythrenned digidol a llythrennedd-wici
  • Wikipedia ar gyfer y gynulleidfa iau
  • "Learning Analytics"
  • Addysg rhydd ac agored a'r fynediad i waith ymchwil
  • Addysg iaith a sgiliau sgwennu

Y Gynulleidfa

Bydd tuag 80 yno o wahanol feysydd:

  • Addysg Uwch
  • Ysgolion Uwchradd
  • Addysg Gydol Oes

Ar y dydd Sul, yn dilyn y Gynhadledd, bydd gweithgaredd araill yn cael ei chynnal, sef taith i Sain ffagan gyda'r bwriad o dynnu lluniau o'r adeiladau. Darperir cludiant am ddim o'r Bae.

Panorama o Fae Caerdydd, man cynnal y Gynhadledd

Cysylltiadau lleol

Eisioes mae gennym nifer helaeth o gysylltiadau sy'n ymwneud â'n prosiectau a chynnwys agored, gan gynnwys: (ychwanegwch yma, os gwelwch yn dda)

Rhodfa Roald Dahl, Bae Caerdydd

References