Cy Blog Archives 4

From Wikimedia UK
Jump to navigation Jump to search

<- Dychwelyd i'r dudalen gyfoes

Archif 2016
Tudalen wedi'i harchifo yw hon.
Cam bach i Wici Cymru, cam ENFAWR i ddynoliaeth
Datganiad i'r Wasg; 16 Rhagfyr 2016.

Ddoe, am y tro cyntaf yn hanes y mudiad Wicimedia, roedd mwy o erthyglau ar ferched na dynion - a hynny ar y Wicipedia Cymraeg. Rydym felly'n wici niwtral o ran cydraddoldeb rhyw (benyw / gwryw).

Ar 15 Ionawr 2016, felly, dyma'r sefyllfa:

Merched 9,312
Dynion: 8,125
Diwrnod o olygu erthyglau am ferched ym Mhrifysgol Abertawe; Ionawr 2014.

Ers tua dwy flynedd, sylweddolwyd fod gagendor enfawr yn bodoli ym mhob un o'r 284 wici ledled y byd a bu ymgyrch rhyngwladol i ddod a'r niferoedd yn fwy cyfartal, drwy lenwi'r gender gap. Cafwyd nifer o sesiynau lle hyfforddwyd golygyddion newydd drwy Gymru gan gynnwys Golygathon yn yr Adran Hanes a'r Coleg Meddygol yn Abertawe, nifer o sesiynau yn y Llyfrgell Genedlaethol ac eraill yn Rhuthun a Machynlleth.

Mae dros 53% o'n bywgraffiadau, felly, am ferched. Mewn cymhariaeth, dim ond 14% o'r bywgraffiadau sydd ar y Wicipedia Saesneg sydd am ferched.

Dywedodd Robin Owain, Rheolwr Prosiectau Wicimedia yng Nghymru, "fod hyn yn gam enfawr i Wici Cymru, ond dim ond y cam cyntaf ydy o! Mae'n rhaid i ni sicrhau fod y wybodaeth o fewn yr erthyglau hefyd yn niwtral a theg. Mae'r erthygl ar 'ffeministiaeth' er enghraifft yn gweiddi am ragor o wybodaeth a gogwydd Gymreig iddi. Ond mae'n ddechrau da! Ac mae cynlluniau eraill ar y gweill i ddatblygu'r Wicipedia Cymraeg ymhellach yn ystod y misoedd nesaf."

Dylai'r Wicipedia Cymraeg ymfalchio fod tair o'r Gweinyddwyr yn fenywod: Deb, Eleri a Thaf a golygyddion fel Morfydd o'r Llyfrgell Genedlaethol yn golygu'n rheolaidd.

Mae'r niferoedd uchod yn cael eu cyfrifo drwy Wicidata, a'r teclyn hwylus yma.



Wicidelta: erthyglau Wicipedia unigryw mewn 284 iaith
Blog gan Carl Morris 1 Rhagfyr
Wicidelta-aromaneg.jpg

Beth yw Wicidelta?

Os ydych chi’n chwilfrydig am ieithoedd a diwylliannau’r byd, dilynwch Wicidelta ar Twitter. Cyfrif answyddogol ac arbrofol ydy e sy’n ymgais i ddarganfod yr hyn a allai fod yn unigryw ym mhob un o ieithoedd Wicipedia.

Mae’r cyfrif yn dewis iaith ar hap. Wedyn mae’n postio dolenni, un ar y tro, at erthyglau Wicipedia unigryw yn yr iaith honno.

Erthygl unigryw, yn ôl fy niffiniad i yma, ydy un heb ddolenni at fersiynau eraill mewn ieithoedd eraill. Mewn geiriau eraill, nid oes unrhyw gyfieithiadau, addasiadau na fersiynau eraill o’r erthygl honno. Mae pob erthygl yn un heb ei thebyg mewn unrhyw iaith arall – ar adeg y trydariad.

Mae 284 fersiwn iaith Wicipedia sy’n weithredol ar hyn o bryd, ac mae pob un yn cael ei chynnal yn bennaf gan wirfoddolwyr fel chi a fi sy’n creu erthyglau yn ôl eu diddordeb a’u harbenigedd.

Mae pob dolen rydych chi’n gweld ar y cyfrif Wicidelta yn enghraifft o natur unigryw posibl o bwnc a fynegir mewn iaith benodol, a grëwyd fel arfer gan ddefnyddiwr yr iaith honno.

Gyda llaw mae fersiwn Cymraeg a fersiwn Saesneg o Wicidelta. Dim ond y bywgraffiad a’r trydariadau ‘datgan iaith’ yn wahanol. Dros amser byddan nhw yn mynd drwy’r ieithoedd i gyd. Ond dw i wedi penderfynu bod nhw yn postio dolenni hollol wahanol er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth o sbam wrth system Twitter!

Syndodau pob dydd Mae pob dolen yn cynnig cyfle i gydnabod cyfraniad a phwnc a allai fod wedi cael dim ond ychydig o sylw, yn enwedig y tu allan i’w gymuned neu gymunedau iaith ei hun.

Ar gyfer rhai ieithoedd, mae’n bosibl cael awgrym o’r erthygl drwy ddefnyddio cyfieithu peirianyddol awtomatig.

Yn y ddelwedd gyntaf uchod mae Wicidelta wedi dewis postio dolenni yn yr iaith Aromaneg. Mae’r trydariad sy’n datgan hyn yn defnyddio’r endonym yn gyntaf (enw’r iaith yn yr iaith ei hun), wedi’i ddilyn gan yr enw yn Gymraeg, wedi’i ddilyn gan hashnod fer sy’n cynnig cod yr iaith (sydd hefyd yn is-barth Wicipedia ar gyfer yr iaith honno). Mae hi wedi bod yn dipyn o ymdrech i ganfod yr enwau yn Gymraeg a dweud y gwir ac mae dal angen rhai – gobeithio bydd pobl yn creu erthyglau Wicipedia Cymraeg am yr holl ieithoedd diddorol yma!

[darllen mwy...]




Rhai Cerrig Milltir y Wicipedia Cymraeg drwy Lygad Rheolwr Cymru
Blog gan Robin Owain, Rheolwr Cymru 17 Tachwedd

Yn Rhagfyr 1996, rhoddais dros 150 o fy ngherddi ar y we am ddim i bawb mewn casgliad o'r enw Rebel ar y We a newidiwyd yn 2005 i Redeg ar Wydr. Ychydig yn ddiweddarach cychwynais gylchgrawn digidol i blant, o'r enw Byd y Beirdd, gan alw ar feirdd roi eu gwaith hwythau ar y we am ddim i bawb. Erbyn heddiw, gallem alw Rebel ar y We yn e-lyfr, ond doedd y gair hwnnw ddim ar gael am ugain mlynedd arall! A hithau'n 2016, a'r gyfrol yn 20 oed, chlywais i ddim am unrhyw ddathliad o fath yn y byd! Cyhoeddwyd dros fil o e-lyfrau ers hynny, ond ychydig iawn sydd am ddim. A mi eith y pen-blwydd heibio, mi wranta, heb ganhwyllau, balwnau na cherdyn pen-blwydd! Cyn troi at brosiectau Wicimedia, dyma osod llwyfan am y cyd-destun: meddylfryd rhai Cymry yn y cyfnod cyn eu laniso.

Chredwch chi ddim y cicio a'r gweiddi ym mhlentyndod y we Gymraeg! Er i bob un o feirdd Byd y Beirdd lofnodi cytundeb ysgrifenedig yn rhoi eu hawl i gyhoeddi'r cerddi, gwaeddodd un perchennog gwasg yng Ngogledd Cymru: "Mae cannoedd o bunnoedd yn y fantol!" (Gweler Golwg, 16 Mawrth 2000) gan gyhoeddi fod perygl mewn cyhoeddi "amaturaidd" pan nad oes arian yn newid dwylo! Roedd yn gweld ei golled ariannol ei hun yn bwysicach na hawl llenorion Cymru i gyhoeddi eu gwaith eu hunain, yn bwysicach na'r Gymraeg. Diolch byth mae'r hen feddwl negyddol, cyfalafol hwnnw'n brysur ddiflannu! A phe bai wedi gofyn i'r beirdd pa un oedd bwyicaf - dyblu nifer y darllenwyr neu wneud ceiniog neu ddwy, dw i'n gwybod yn iawn beth fyddai'r ateb: mai sgwennu i'r gynulleidfa oedd bwysicaf! A mynegwyd hynny gan Selwyn Gruffudd ac eraill. Fel y dywedais gannwaith: "o'r llenor i'r darllenydd", gan hepgor y sensor yn y canol.

Cyhoeddwyd adolygiad o Rebel ar y We yng Ngwanwyn 1997 yn Llais Llyfrau (Cyngor Llyfrau Cymru) a nodwyd mai dyma'r gyfrol Gymraeg gyntaf i'w rhoi ar y we. Mi sgwennais yn Golwg (6 Ebrill 2000): Pe bai pob cyhoeddwr llyfrau heddiw yn rhoi pob llyfr a gyhoeddwyd ganddynt AM DDIM ar y we byddai hynny'n ymestyn einioes y Gymraeg am genhedlaeth neu ddwy. Mae'r rhyngrwyd yma i aros... ac mae'n dyngedfennol ein bod yn ail-ystyried ein syniadau confensiynol am gyhoeddi, yn ei sgîl. Mae'r chwyldro ar y teledu - a'r monitor - ac mae'n rhaid i'r Gymraeg fod yno!

Pan fewngofnodais am y tro cyntaf ar y Wicipedia Cymraeg (cy-wici) ar 7 Mehefin 2008, roedd na tua 16,000 o erthyglau ac mae'r nifer hwnnw wedi codi, bellach i dros 81,400. Yng Ngorffennaf 2003 y teipiwyd y gair cyntaf ar cy-wici ar yr erthygl ar y Gymraeg; yn fuan ar ôl hynny y daeth: Llywelyn ap Gruffudd, Rhestr Cymry, Gwiwer, David R. Edwards ac Owain Gwynedd. Y mis hwnnw roedd yr en-wici dros ddwy oed.

Ch- dde: Robin Owain, Marc Haynes ac Aled Powell.

Yng Ngorffennaf 2008 dechreuais drafodaeth am nawdd a datblygu cy-wici drwy bartneru gyda chyrff erall. Roedd llai na 20,000 o erthyglau ar y pryd a datblygodd y drafodaeth yn weithgaredd unigolion y tu allan i WP ee cysylltu gyda Bwrdd yr Iaith, Prifysgol Cymru a'r Llyfrgell Genedlaethol. Datblygodd hyn yn gais am nawdd a chafwyd £65,000 gan Lywodraeth Cymru a lansiwyd y prosiect 'Llwybrau Byw'. Fe'm penodwyd yn Rheolwr Cymdeithas Wici Cymru, gyda Wikimedia UK yn gwneud y gwaith papur o ddydd i ddydd. Ar ddiwedd y flwyddyn parhaodd y cytundeb a dw i'n dal yn fy swydd.

Ceir llawer o fanylion ar gerrig milltir eraill ar y dudalen Wicipedia Cymraeg ar cy-wici. Ond o'm rhan i, mae'r canlynol, wedi'u serio ym mêr fy esgyrn. Efallai mai un o'r profiadau mwyaf cofiadwy oedd hwnnw pan oeddwn ar banel ymgynghorol TG/Cymraeg y Llywodraeth yn 2013; tra'n trafod sefyllfa'r Gymraeg o fewn Techoleg Gwybodaeth, cyhoeddodd Gareth Morlais fod Google wedi'i hysbysu mai'r nifer o erthyglau ar Wicipedia oedd yn penderfynu sawl miliwn o ddoleri y bydden nhw'n ei wario ar gyfieithu eu prosiectau i'r Gymraeg a ieithoedd eraill. Mi chwysais litr neu ddwy o sylweddoli'r fath gyfrifoldeb oedd arnom! Dyma gerrig milltir eraill:

Robin (chwith), Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, a Linda Tomos, Prif Lyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol. Cyfarfod yn Eisteddfod Genedlaethol 2012.

Mi fyddai'n cymharu Wicipedia'n aml i nyth morgrug Amasonaidd, a braf ei weld yn tyfu. Brafiach yw gweld newid ym meddyliau pobl, lle ceir meddwl rhydd annibynol heddiw, a'r syniad o rannu'n bwysicach na'r hyn a fu yng Nghymru cyhyd - cyhoeddi er mwyn arian. Os mai dymuniad y person yw gwneud arian, yna awgrymaf eu bod yn newid eu swydd a bod yn fancar neu'n llawfeddyg. Ond os mai'r rheswm dros olygu ydyw fod y llenor yn dymuno rhannu ei waith, neu drosglwyddo gwybodaeth neu argyhoeddi eraill, yna wici ydy'r lle, neu wefan agored arall, sy'n rhydd ac am ddim. Dwn i ddim pwy yw llawer o'r morgrug hyn, gan ein bod yn aml yn defnyddio ffug enw. Mae llawer wedi gwneud argraff arna i, yn bennaf, 'Anatiomaros', Eleri James a Les Barker. Petha bach ydy morgrug ond mae eu gwaith diflino wedi creu'r storfa gwybodaeth Gymraeg mwyaf a fu erioed yn y cosmos, a'r fynedfa iddi am ddim! Gwnewch y pethau bychan - ar ei orau!

Rydym ar drothwy gweld datblygiadau'r 6 mlynedd diwethaf yn dwyn ffrwyth ar ei ganfed; bu'n waith caled, diddiolch, nid-am-arian, a hynny ar adeg pan oedd llawer o'n pobl yn anwybodus am bethau digidol, yn draddodiadol gul hefyd. Anghofia i byth sgwrsio gyda Wyn Roberts (Llansannan ers talwm) am lyfrau ar Radio Cymru, minnau'n sôn am Rebel ar y We, a'i fod mewn gwirionedd yr e-lyfr cyntaf yn Gymraeg. Wedi deg munud o sgwrsio, dyma rhyw hen wag o Ben Llŷn yn ffonio ac yn dweud wrtha i: "Peidiwch a siarad drwy'ch het, ddyn, wrth gwrs na fedrwch chi ddim tynnu llyfr i lawr gwifren ffôn!" 2010 oedd hynny, nid 1910!

Mi ddyfynaf fy nhad i orffen, dyfyniad allan o lyfr Aled Eurig, Tân a Daniwyd (Argr. W. Walters a'i Fab, 1976):

Hyn yw angen mawr Cymru heddiw: gweithwyr caled, gweithwyr cyson, gweithwyr adeiladol, gweithwyr creadigol, gweithwyr positif - gydag argyhoeddiad dwfn o werth yr unigolyn, a chariad tuag at gyd-ddyn yn ogystal â thuag at Gymru.

Trafod ei waith yn y 1960 yr oedd yn yr erthygl, ei waith fel ysgrifennydd Arfon o Gymdeithas yr Iaith a sefydlydd Tafod y Ddraig ond gallasai'n hawdd fod yn disgrifio yr hyn sydd ei angen arnom ni fel cenedl heddiw.

Ymlaen!




WMUK a Llyfrgell Genedlaethol yr Alban yn cyflogi Wicipediwr Preswyl drwy gyfrwng y Gaeleg
Blog gan John Lubbock a Robin Owain 11 Hydref 2016


A map of Scots Gaelic speakers – CC BY-SA 3.0. By Skate Tier


Mae Wikimedia UK a Llyfrgell Genedlaethol yr Alban newydd hysbysebu am Wicipediwr Preswyl llawn amser i hyrwyddo Wicipedia Gaeleg (neu'r Uicipeid).

Yn dilyn cais llwyddianus i'r Bòrd na Gàidhlig, mae Adran Aeleg Llywodraeth yr Alban yn bwriadu pendoi Wicipediwr (benyw neu wryw) a fydd yn gweithio ledled yr Alban yn hyrwyddo Gaeleg drwy hyfforddi pobl i greu neu wella erthyglau ar Uicipeid, y Wicipedia Aeleg. Disgwylir i'r Wicipediwr llwyddiannus hyfforddi pobl yn Ynysoedd Allanol Heledd, yr Ucheldir a chanol yr Alban. Gall weithio o unrhyw le o fewn yr Alban, neu o swyddfa yn y Llyfrgell Genedlaethol, pe dymunent.

Maer hyn yn dilyn nifer o swyddi tebyg yng Nghymru ac yng ngweddill gwledydd Prydain gan gynnwys Marc a fu'n gweithio yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Jason sydd ar ei ail flwyddyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Penodwyd y Wicipediwr Preswyl cyntaf yn yr Alban yn 2013 i weithio o fewn y Llyfrgell Genedlaethol a chrewyd cymuned dda o olygyddion yno yng Nghaeredin. Dilynwyd hyn gan swydd ym Mhrifysgol Caeredin, ac mae Ewan yn parhau yn y swydd honno. Roedd hyn, fel yng Nghymru, yn normaleiddio'r gwaith o roi cynnwys a gwybodaeth ar drwyddedi agored mewn sefydliadau cenedlaethol. Mae Wicipedia ar gael mewn tua 290 o ieithoedd.




Dim erthygl? Dim problem!
Creu Daleni Data ar y Wicipedia Cymraeg
Blog gan Jason Evans, Wicipediwr Preswyl y Llyfrgell Genedlaethol

Mae’r Wicipedia Gymraeg eisoes yn gwneud yn well na'r disgwyl gyda dros 70,000 o erthyglau. Yn fras dyna un erthygl i bob wyth Siaradwr Cymraeg. Ond yn awr mae myfyriwr yn yr Almaen wedi datblygu teclyn newydd a all lenwi'r bylchau ar Wicipedia drwy fenthyg data o brosiect arall gan Wicimedia, sef Wicidata.

Nod y nodwedd newydd yw cynyddu mynediad agored ac am ddim i wybodaeth ar Wicipedia. Mae’r 'Ddalen Data' (Article Placeholder yn Saesneg) yn casglu data, delweddau a chyfeiriadau o Wicidata a'u harddangos yn arddull arferol Wicipedia, gan ei gwneud yn hawdd eu darllen.

Ar hyn o bryd mae'r Ddalen Data yn cael ei threialu ar nifer fechan o Wicipedias, ac ar ôl ymgynghori â'r gymuned Wicipedia Cymraeg, cytunwyd y byddem yn profi'r teclyn newydd yma ar cy-wici.


Place Holder 1.JPG


Y fantais fwyaf amlwg o’r ddalen data yw'r mynediad hawdd at wybodaeth sydd heb ei chynnwys ar Wicipedia eto, a gyda 20 miliwn o eitemau ar Wicidata, nid yw'r wybodaeth yn brin! Dylai hyn yn ei dro annog golygyddion i greu erthyglau newydd gan ddefnyddio'r wybodaeth a gyflwynir yn y Ddalen Data.

Ond, efallai mai'r agwedd fwyaf gyffrous o ddefnyddio Wicidata i gynhyrchu cynnwys Wicipedia, yw bod Wicidata yn siarad cannoedd o ieithoedd (dros 288), gan gynnwys y Gymraeg! Golyga hyn bod llawer o’r tudalennau mae'r meddalwedd yn eu creu ar y Wicipedia Cymraeg yn ymddangos yn uniaith Gymraeg.

Os nad yw'r eitem ar Wicidata wedi cael ei gyfieithu i'r Gymraeg eto, bydd y nodwedd yn ymddangos yn Saesneg, fodd bynnag, mae'n awr yn haws nag erioed i gyrraedd yr eitem Wikidata, trwy’r Ddalen Data, ac ychwanegu cyfieithiad Cymraeg (gweler y llun isod). Ac mae cynlluniau ar y gweill i gynnal digwyddiadau gyda siaradwyr Cymraeg er mwyn cyfieithu rhagor o eitemau Wicidata i'r Gymraeg.


Mae cyfieithu unrhyw ran o Wicidata'n hawd!



Trwy ymgorffori’r nodwedd hon i mewn i'r Wicipedia Cymraeg mae gobaith y bydd gan siaradwyr Cymraeg brofiad cyfoethocach o'r wefan ac y bydd yn annog mwy o olygyddion i greu cynnwys ac ychwanegu cyfieithiadau Cymraeg i Wicidata, sydd yn atgyfnerthu lle'r iaith Gymraeg yn y deyrnas ddigidol.



Defnyddio Lluniau Comin yng Ngeiriadur Llên Natur


Blog gan Robin Owain; Awst 2016

Yn ddiweddar cafwyd partneriaeth ffrwythlon iawn rhwng tri o brosiectau Wicimedia: [2], Comin Wicimedia a'r Wicipedia Cymraeg a Llên Natur (adran ddigidol Cymdeithas Edward Llwyd) a'u gwefeistr, sef Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr.

Y sialens a osodais i Duncan Brown, congl-faen Llên Natur, oedd troi eu geiriaduron rhywogaethau (testun yn unig) yn Fywiadur lliwgar, llawn lluniau.

Graffig Cymraeg.JPG

Wedi tri mis o godio a cheisiau impio gwahanol dechnolegau llwyddwyd i gael dros 8,000 o rai o ffotograffau gorau'r byd. Drwy ddyfalbarhad ac arweiniad Duncan Brown a'i dîm o naturiaethwyr gwelwyd casgliad fwya'r byd o ffotograffau (Comin) yn ymddangos o fewn y Bywiadur. Gwnaed hyn yn bosib drwy Wicidata, a'i lu o ddynodwyr unigryw: un o'r rhain yw'r 'ffotograff gorau' o'r rhywogaeth. Yn hytrach na mynd ati gyda'r llaw a'r llygad, roedd Wicidata'n ei gwneud hi'n bosibl i Dewi o'r Uned Technolegau Iaith, ar ran Llên Natur, dynnu'r llif delweddau i fewn i'w gwefan. Gan fod lluniau gwell yn cael eu huwchlwytho'n ddyddiol ar Comin, roedd hyn hefyd yn caniatau otomeiddio'n ddyddiol y broses o uwchlwytho lluniau newydd, gwahanol ayb.

Un o ffotograffwyr byd natur gorau Cymru yw'r cyn-brifathro Alun Williams ac mae wedi uwchlwytho cannoedd o luniau i wefan Llên Natur dros y blynyddoedd. Yn dilyn lansio'r Bywiadur yn Haf 2016 roedd rhai o luniau Alun wedi derbyn gwobrau 'Ffotograffau o Safon' gan gymuned Comin Wicimedia. Mae ei luniau bellach i'w gweld o fewn erthyglau Wicipedia (mewn dros 280 o ieithoedd) yn ogystal â'r Bywiadur. Dyma rai ohonynt:

Fel y mae Wicidata'n allweddol i dynnu'r lluniau o Comin i wefan Llên Natur, felly hefyd gyda'r Wicipedia Cymraeg. Man cychwyn y gwaith oedd uwchlwytho enwau Cymraeg safonol i Wicidata - gan gynnwys y 10,000 o enwau adar. Drwy ddefnyddio côd syml, mae'r Nodyn (neu 'demplad') Rhestr Wicidata yn rhwyddhau'r broses o greu rhestrau otomatig o fewn Wicipedia Cymraeg hefyd. Mae'r erthygl Rhestr o ferched yn y Bywgraffiadur er enghraifft yn crynhoi'n daclus ac yn ddyddiol yr erthyglau ar y merched hynny - ychydig dros gant ohonyn nhw.

Eisioes mae gennym dros gant o'r tablau hyn, a gan fod y wybodaeth yn cael ei diweddaru'n otomatig, mae hefyd yn gyfoes ac yn fwy cywir na'r hen ddull llaw a llygad.

Diweddaf gyda rhybudd. Mae dod a gwybodaeth fel hyn yn otomatig o Wicidata'n beth da, cyn belled a'n bod fel cymuned o olygyddion Cymreig hefyd yn medru rheoli'r llif honno! Gwyddom am y frwydr barhaus ar y Wicipedia Saesneg i nodi mai Cymro neu Gymraes yw hwn a'r llall; mae nhw'n dal i ddweud mai Sais yw Tom Pryce, a Jac yr Undeb sydd wrth ei ochr heddiw: Awst 2016. Mae'n wych medru troi tapiau'r bath arno; mae yr un mor hanfodol fod y dŵr sy'n llifo drwyddy'r tapiau mor lân a phosibl. A chadwn yr hawl i ddiffodd y tapiau hyd yn oed. "Unigryw, unigryw!" chwedl Carl Morris.



Gwybodaeth agored i bawb


Dywedodd Hugh Gusterson, Llywydd presennol Cymdeithas Ethnoleg America, ‘I get paid nothing directly for the most difficult, time-consuming writing I do: peer-reviewed academic articles. In fact a journal that owned the copyright to one of my articles made me pay $400 for permission to reprint my own writing in a book of my essays.’

Benefitsofopenaccess cc-by logo cy PNG.png

Yn wir, dyna oedd y drefn gyffredinol drwy'r byd, a byddai'r gwaith adolygu'n cael ei wneud fel rhan o waith a chyflog arferol yr academydd. Dim ceiniog yn fwy, a hyn oedd y norm. A doedd y cyhoeddiadau academaidd ddim chwaith yn gwneud fawr o elw gan na chodid lawer am fynediad i'r cynnwys, ond yn y blynyddoedd hyn mae pethau wedi newid gan fod cwmniau gwneud elw wedi cymryd drosodd y gwaith o'u cyhoeddi, cwmniau fel Elsevier, Taylor & Francis, a Wiley-Blackwell. Mae'r cwmniau hyn yn gwneud elw mawr gan eu bod yn codi crocbris ar fyfyrwyr ac academyddion eraill am fynediad i'r gwaith. Derbyniodd Erik Engstrom o gwmni Elsevier, er enghraifft, £16.18m y llynedd - ef oedd y prif weithredwr a gafodd y cyflog uchaf o holl gwmniau'r FTSE100 y llynedd.

[darllenwch ragor o'r erthygl wreiddiol yma...]




Deffro'r Ddraig
Blog gan John Lubbock a Robin Owain

Ar y Wikipedia Saesneg, mae'r prosiect WikiProject Wales newydd gwbwlhau prosiect chwyldroadol i godi egin erthyglau'n erthyglau o gig a gwaed! Ar en-wici (y wici Saesneg) a nifer o ieithoedd eraill, ceir system safoni erthyglau gyda 'Statws Erthygl Dda' yn cael ei rhoi i'r erthyglau gorau. Bwriad y gystadleuaeth oedd cymell golygyddion i ehangu a gwella erthyglau byr (neu 'egin erthyglau'). Law yn llaw, fe gynhaliwyd cystadleuaeth ar y cy-wici (ie - Wicipedia Cymraeg!) a bu saith o awduron wrthi'n gwella a chreu erthyglau o'r newydd.

Wrth gwrs, mae na lawer mwy yn siarad Saesneg nag sydd yn siarad Cymraeg, ac roedd y nifer o erthyglau a gafodd eu gwella ar y Wikipedia Saesneg lawer iawn mwy niferus - 1065 o erthyglau am Gymru! Dyma'r ddolen at yr erthyglau hynny. Rhannwyd y brif wobr rhwng 'Cwmhiraeth' a 'Sturmvogel 66' a daeth Deb - sydd hefyd yn golygu ar y Wicipedia Cymraeg - yn seithfed! Paraodd y gystadleuaeth drwy fis Ebrill 2016.

Trefnydd Deffro'r Ddraig oedd Dr. Blofeld, ac roedd na goblyn o waith trefnu! Rhoddwyd £250 ar gyfer y gwobrau gan Wicimedia UK. Dyma rai o'r erthyglau newydd a grewyd ar en-wici: Santes Callwen, Lleision ap Thomas, Hen Farchnad Llanidloes, Amaethyddiaeth yng Nghymru, Castell Picton, Sarah Jacob ac erthygl ar y crempog Cymreig! Ar cy-wici, cafwyd erthyglau am: Ffordd Farrar a Kirsty Wade gan Blogdroed, Cymdeithas Adeiladu Abertawe a Dafydd Parri gan DafyddT, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd a Ffwl-y-mwn gan HamII, Rose Davies a John Cyrlas Williams gan John Jones a Senedd-dy Owain Glyn Dŵr, Machynlleth gan Llywelyn2000.

Cafwyd golygathon hefyd yn Aberystwyth, yn sbarc i'r cyfan, a deffrwyd y ddraig drwy gweddill y mis! Sicrhewch nad eith hi'n ôl i gysgu, drwy olygu erthyglau Cymraeg neu am Gymru!



BBC Cymru'n agor ei drysau!
Blog gan Robin Owain, Rheolwr Wicimedia Cymru
29 Chwefror 2016
Dewi Sant ar ffenestr o'r 1930au.

Pan gyhoeddais i 150 o fy ngherddi yn rhydd, yn agored ac am ddim i bawb, ar y we yn Rhagfyr 1996, ychydig a gredais i y byddai'n cymryd 20 mlynedd cyn bod sefydliadau fel y BBC yn gwneud yr un peth. Mae rhai sefydliadau, fel y Coleg Cymraeg a'r Llyfrgell Genedlaethol, wedi bod yn hynod o flaenllaw, mae eraill fel y BBC yn troedio'n ofalus ac ambell un fel Cadw'n eiddugeddus iawn o'u ffotograffau a'u gweithiau eraill, ac yn mynnu eu cadw ar drwydded caeedig Crown Copyright!

Mewn ateb i Wil Tomos, gohebydd Y Cymro ar y pryd (gweler Y Cymro, 12 Chwefror 1997) dywedais: "Mae na lawer o bobol wedi fy annog i fynd ati i gyhoeddi llyfr-hen-ffasiwn ar bapur, ond roeddwn yn awyddus iawn i fynd ati i'w gyhoeddi ar y dechnoleg fwyaf modern posib gan roi copi i bob person yn y byd am ddim!" Yr un wythnos cyhoeddodd Golwg: "Ac wrth lansio Rebel ar y We fe rybuddiodd Robin bod yn rhaid i gyhoeddwyr Cymraeg symud ymlaen gyda'r oes neu wynebu'r ffaith y bydd yr iaith yn cael ei gadael ar silff lychlyd rhyw hen lyfrgell ac yn marw." Mae'r wefan yn dal yno, yn y dyfnderoedd, ers Rhagfyr 1996.

Ar y naill law, 'da ni wedi symud ymlaen ers hynny: mae na dros fil o e-lyfrau wedi'u chyhoeddi ers y cyntaf hwnnw yn Rhagfyr 1996, ac mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn prysu uwchlwytho 120,000 o'u lluniau i Gomin Wicimedia - ar drwydded agored. Ar y llaw arall, yr unig ffordd y cewch afael ar un o dros ddwy filiwn o luniau Cadw yw drwy dalu £40 amdano! Mae'r syniad o 'berchnogaeth' yn dal i fodoli, nid yn unig gan Cadw, ond gan ein llenorion, sy'n credu y gwnant eu ffortiwn rhyw ddydd gyda'u henglyn neu gyfrol o storiau byrion! Dydy'r syniad o rannu, o gyfranu am ddim, ac o drosglwyddo gwybodaeth a llenyddiaeth a llun, ddim cweit wedi eu cyrraedd. Ond mae'r newid yn dod.

Yng ngwanwyn 2015 rhyddhaodd Cymru Fyw, gwefan y BBC, swp o erthyglau ar nifer o grwpiau cerddorol, bandiau ac unigolion i'w rhoi ar Wicipedia; roedd hyn yn gam anferthol iddynt, ac ni stopiodd y byd a throi ar ei hechel! Heddiw, mae Cymru Fyw yn rhyddhau gêm bychan i ddathlu Gŵyl Ddewi, gêm sy'n defnyddio cyfesurynnau / lleoliad seintiau a gwybodaeth o Wicipedia (Cymraeg a Saesneg). Datblygiad diddorol ac mae'n rhaid curo eu cefnau am hyn! Gweler: Beth fyddai'ch enw sanctaidd? Edrychwn ymlaen yn arw i weld BBC Cymru yn datgloi ychwaneg o ddrysau ac yn rhyddhau ychwaneg o'u cynnwys. Trethi pobl Cymru a dalodd am holl stwff y BBC yn y lle cyntaf, a gwell eu rhannu'n agored i bawb, na'u gwarchod mewn cabined dur rhyw archifdy oer. Ymlaen rwan!




Cannoedd o erthyglau newydd wedi'u creu, miloedd o luniau wedi'u rhannu a milynau o hits ac ymweliadau ar Wicipedia!
12-month-review-copy-welsh.png
Blog gan Jason Evans, Wicipediwr llawn-amser yn y Llyfrgell Genedlaethol

Aeth blwyddyn heibio ers i mi ddechrau fy siwrne drwy fyd Wicipedia. Roedd fy ngorchwyl gwaith yn ddigon syml - annog pobl i olygu, ysbrydoli'r gymuned a chreu ethos drws agored i weithiau o fewn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Gyda 18 miliwn o ymweliadau i dudalennau pob dydd, ymddengys mai Wicipedia yw'r prif Siop-Un-Alwad - am wybodaeth o bob math dan haul, ac mae llawer o sefydliadau ledled y byd wedi partneru gyda'r cawr o wyddoniadur hwn, er mwyn rhannu eu gwybodaeth a'u casgliadau wrth iddynt dyfu. Nod Llyfrgell y Genedl yw darparu gwybodaeth i bawb, ac mae Wicipedia yn un o'r llwybrau a ddefnyddir i wneud hynny.

Gwella Wicipedia

Do, bu gan Wicipedia ei beirniaid, ac mae ei pholisi o wahodd unrhyw berson i gyfrannu'n golygu fod gan rai erthyglau fân wendidau. I ateb y broblem hon, ac er mwyn i Gymru gael ei chynrychioli yn y modd gorau ar lwyfan Wicipedia, yn llygad y byd, trefnwyd nifer o ddigwyddiadau neu 'olygathonau' gyda'r bwriad o hyfforddi golygyddion newydd Wicipedia ar nifer o bynciau, o Gyfraith yn yr Oesoedd Canol i Gwpan Rygbi'r Byd. Mae dros 100 o wirfoddolwyr wedi troi eu llaw at olygu, mewn digwyddiadau a drefnais, ac mae'r offer newydd i symlhau'r broses o olygu, sef 'Y Golygydd Gweladwy' (Visual Editor), wedi ei gwneud yn haws.

Mae staff a gwirfoddolwyr hefyd wedi bod yn brysur ar brosiectau sy'n berthnasol i Wicipedia; ceir 6.5 miliwn o lyfrau o fewn muriau'r Llyfrgell, ac felly, mae na fwy na digon o ddewis!

Dros y flwyddyn diwethaf daeth yn glir fod golygathonau'n ffyrdd da i ymrwymo a meithrin y gymuned. Mae hefyd yn ffordd dda o gyflwyno'r Llyfrgell i'r gymuned ehangach, ei chasgliadau a'i hetifeddiaeth mewn modd hyblyg a thawel.

[darllenwch ragor o'r erthygl yma...]




<- Dychwelyd i'r dudalen gyfoes