Cy Blog Archives 3

From Wikimedia UK
Jump to navigation Jump to search

<- Dychwelyd i'r dudalen gyfoes

Archif 2015
Tudalen wedi'i harchifo yw hon.
Somerville, Gwyddoniaeth a Wicipedia
Blog gan Martin Poulter, Wicipediwr Preswyl yn Llyfrgell y Bodleian.
30 Tachwedd 2015

Yn gynnar yn y 19eg ganrif roedd Mary Somerville yn wyddonydd cydnabyiedig. Roedd un o'i llyfrau'n hynod o boblogaidd - y mwyaf poblogaidd - hyd nes y cafodd ei oddiweddu gan glasur Darwin, On the Origin of Species. Cyhoeddodd lawer am seryddiaeth, bioleg, y Ddamcaniaeth ar Atomeg, a daearyddiaeth ffisegol a hynny ar amser pan oedd cyhoeddiadau fel eu bath yn brin iawn gan ferched. Bu'n diwtor i Ada Lovelace gan ei chyflwyno i'r cyfrifiadurwr Charles Babbage.

Wrh Ddadorchuddio Amser, gan William Skelton (ysythrwr); Charles Reuben Ryley (artist) (The Bodleian Libraries, Rhydychen); trwydded agored [CC BY 4.0], drwy Gomin Wicimedia

Ar y 12fed o Hydref daeth grŵp at ei gilydd ym Mhrifysgol Rhydychen a Llyfrgell y Bodleian gyda'r nod o hyrwyddo'r wybodaeth amdani ar Wicidestun, chwaer brosiect i Wicipedia, sydd yn ei blentyndod (y fersiwn Gymraeg). Fe wnaethom gyhoeddi papur gan Mary Somerville o 1826 ar Wicidestun. Gan fod Wicidestun mor agored, gellir defnyddio'r papur hwn ar gyfer nawdd ar gyfer ymchwil academaidd.

Ar y diwrnod hwn hefyd fe gychwynom ni drawsysgrifo traethawd Somerville ar Mechanisms of the Heavens, llyfr a ddisgrifiwyd gan y seryddwr John Herschel fel 'yr ymdriniaeth gywasgedig orau o athroniaeth Niwton a welwyd erioed'. Mae'r trawsysgrifiad bellach wedi'i orffen, gan gymuned Wicidestun a gellir ei weld ar: Proffil Somerville ar Wicidestun.


darllenwch ragor o'r erthygl yma...




Agor drysau'r GLAMiau
Pwysigrwydd archifo a churadu, nid creu - addasiad Cymraeg o sylwadau gan Stuart Prior.

A. Rhannu yw Gofalu (Sharing is Caring)

9 Tachwedd 2015

A mi euthum draw am dro tua pharthau Copenhagen i fwrw'r Sul, yn rhannol i seminar blynyddol "Rhannu yw Gofalu" a oedd yn canolbwyntio ar gydweithio a rhannu gweithiau'r sector diwylliant a threftadaeth. Cynhaliwyd y seminar yn DR Koncerthuset a cheir manylion pellach arni yma.

A mi ges i fy niwallu'n llwyr gan y manylion a'r arbenigedd, ill dau. Cafwyd rhaglen gyfoethog a oedd yn ateb cwestiynau am hawlfraint a gweithiau creadigol, gyda thrafodaethau bywiog gan artistiaid a chynrychiolwyr cyrff a mudiadau a oedd yn cynrychioli hawliau deiliaid hawliau a hawlfreinniau o fewn y byd celf yn Nenmarc yn ogystal a chyfreithwyr a oedd yn annog y defnydd o drwyddedau agored.

B. Curadu nid creu Un o gonglfeini'r gynhadledd oedd y cysyniad mai swyddogaeth Galeriau, Llyfrgelloedd, Archifau, Amgueddfeydd a Mwy (GLAMiau) yw gwarchod, archifo a churadu ac nid creu. Yn fyr: mae GLAMiau heddiw'n creu gwaith (y rhaglenni, arddangosfeydd, profiadau ayb) fel adwaith i'r angen neu'r gofyn. "Ond mae GLAMiau'n curadu'n barod!" meddech. Ydyn, ond mae mordwyo a fforio o gwmpas y gweithiau digidol hyn yn rhywbeth newydd, sydd ar hyn o bryd yn eitha anhylaw a thywyll. Mae gwella'r dull o chwilio, archwilio, categoreiddio a graddio gweithiau ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd (o blant ysgol i ôl-raddedigion) a chreu cyswllt rhwng gwahanol weithiau'n bethau newydd, sydd angen dulliau newydd, er mwyn y gynulleidfa, y darllenydd, yr ymchwilydd.

Mae hyn i gyd yn dod yn anrhaethol bwysig pan fo cyrff yn rhyddhau cynnwys ar drwydded agored. Heb wybod ble i edrych, amhosibl yw darganfod gwaith er mwyn ei ddefnyddio, ei ail-ddefnyddio (remix) ac wrth i swm a sylwedd y cynnwys gynyddu, mae'r dasg yn mynd yn anos. Mae rhoi'r offer a'r gefnogaeth gywir i'r bobl hyn, boed athro, academig neu artist yn hanfodol. Hanfodol hefyd yw parchu a gofalu am y gweithiau - a'u defnyddio i'w llawn botensial.

darllenwch ragor o'r erthygl yma...




Croesawu Lucy Crompton-Reid yn Brif Weithredwraig newydd Wikimedia UK
Crynodeb o ysgrif gan Michael Maggs, Cadeirydd Wikimedia UK
22 Gorffennaf 2015

Braf yw cyhoeddi fod Wikimedia UK wedi bod yn ddigon ffodus i benodi Prif Weithredwraig newydd: Lucy Crompton-Reid, sydd ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwraig 'Apples and Snakes', sef elusen sy'n ymwneud â llenyddiaeth. Mae ganddi brofiad eang o weithio gyda gwirfoddolwyr mudiadau fel ni, datblygu sefydliadau tebyg, gweithio gyda phartneriaid arbennig, y cyfryngau, addysg a sicrhau nawdd allanol gan ymddiriedolaethau a sefydliadau eraill.

Lucy Crompton-Reid.jpg

Dros gyfnod ei gyrfa mae hi wedi gweithio i nifer o elusennau yn ogystal â'r sector gyhoeddus. Yn ddiweddar bu'n gyfrifol am adran o Dŷ'r Arglwyddi a oedd yn ymestyn allan i'r cyhoedd yn ogystal a'r adran addysg. Cyn hynny gweithiodd i Gyngor Llenyddiaeth Lloegr, gan ddatblygu partneriaethau strategaethol cyn sefydlu partneriaethau gyda llywodraeth leol ag ysgolion. Yna trodd at Gyngor Ffoaduriaid Prydain fel cydlynydd eu gwaith ar 'Wythnos y Ffoaduriaid'. Cadeiriodd hefyd bwyllgor llywio o NGOs ac elusennau, arweiniodd at waith gyda'r cyfryngau; sicrhaodd hefyd rediad llyfn cannoedd o weithgareddau elusennol diwylliannol - yn flynyddol. Mae hi'm ymroddedig i addysg ac addysgu yn ogystal â sicrhau mynediad rhwydd ac agored i addysg a gwybodaeth.

Bydd Lucy'n ymuno â ni yn Hydref, ac yn y cyfamser, bydd ein Prif Weithredwr dros-dro, D’Arcy Myers, yn parháu yn ei swydd, gan gydweithio gyda Lucy am gyfnod er mwyn sicrhau trosglwyddo'r awennau mor esmwyth â phosibl. Bydded y croeso iddi atom yma yn Wikimedia UK hefyd mor gynnes â phosib.


darllenwch ragor o'r erthygl yma...




Y bygythiad i hawliau 'Rhyddid Panorama' yng Nghymru a gweddill Ewrop
Addasiad o waith Stevie Benton (Wikimedia UK)
17 Mehefin 2015

Pob dydd, mae miliynau o bobl yn torri deddfau hawlfraint, heb yn wybod iddynt. Mae'r rheol 'Rhyddid Panorama' yn diffinio'r hawl i dynnu ffotograff o adeiladau modern, ac mewn rhai gwledydd fel Gwlad Belg neu Ffrainc, mae hynny'n cael ei wahardd a'i gyfri'n 'dorr hawlfraint'. Yma yng Nghymru a gweddill gwledydd Prydain a gogledd Iwerddon, a gwledydd fel yr Almaen, caniateir i chi wneud hynny, ond mae trafodaethau'n digwydd yn Senedd Ewrop ar hyn o bryd ynglŷn ag ailwampio'r rheolau hyn a all weld dileu'r hawl neu'r rhyddid hwn.

Mae'r ddau lun uchod yn dangos mor hyrt yw'r sefyllfa: ceir dau gerflun o'r Atomium, y naill yng Ngwlad Belg a'r llall yn Awstria. Sawl gwaith y torrwyd deddfau Gwlad Belg, drwy gyhoeddi llun o'r 'Atomium' ar Trydar a Facebook er enghraifft? Ac os nad ydy'r Awdurdodau'n eich herlyn, beth yw'r pwynt o greu'r Ddeddf? Dan arweiniad Julia Reda ASE, ceisir cysoni'r rheolau ar draws Ewrop, gan ddefnyddio deddfau agored gwledydd Prydain fel model i weddill Ewrop. Mae Adroddiad Reda'n galw ar Senedd Ewrop i “sicrhau fod y defnydd o ffotograffau, fideo neu ddelweddau eraill sydd wedi'u gosod yn barhaol mewn llefydd cyhoeddus yn cael eu caniatáu.”

Byddai cyhoeddi llun fel hwn (cerflun o Owain Glyn Dŵr yn Eglwys Pennal) yn torri'r Ddeddf!

Fodd bynnag, mae nifer o Aelodau Seneddol Ewropeaidd sy'n ceisio cyflwyno'r isgymal 'anfasnachol' i'r rheolau panorama, sydd mewn gwirionedd yn eu gwneud yn dda i ddim. Byddai hyn yn golygu y byddech yn torri'r Ddeddf pe baech yn rhoi lluniau o'ch gwyliau ar Facebook neu eu huwchlwytho i erthygl ar Owain Glyn Dŵr ar y Wicipedia Cymraeg!

“Mae gan lawer ohonom, bellach, gamera a chyfrifiadur yn rhan o'n ffôn,” medd Michael Maggs, Cadeirydd Wikimedia UK. “Mae'r datblygiadau diweddaraf yn ei gwneud hi'n haws i ni rannu ein ffotograffau a'n fideos ar-lein. Mae dod a'r cymal 'non-commercial' i fewn i'r llun yn ei gwneud hi'n drosedd i Ewropeaid rannu llawer o'r cynnwys hwn. Mae'n dileu rhyddid yr unigolyn.”

Pe bai'r ddeddf newydd i wrthwynebu Rhyddid neu'r hawl i banorama, yna mae elfen chwerthinllyd yn dod i'r darlun! Caniateir tynnu llun y Tŵr Eiffel (oherwydd ei oed) - os tynnir y llun yn ystod y dydd. Ond fin nos, mae'r golau arno cael ei ystyried yn osodiad 3-dimensiwn gwahanol, felly ni fydd hawl gan unrhyw berson i dynnu llun o'r Tŵr yn ystod y nos!

darllenwch ragor o'r erthygl yma...




Ail Wicipedwraig preswyl i'r Alban
Ysgrifennwyd y blog hwn gan Sara Thomas, Wicipedwraig newydd Amgueddfa Genedlaethol yr Alban
30 Mawrth 2015‎
Sara Thomas

Dw i'n sgwennu'r blog yma tra'n eistedd yn Amgueddfa Celf Fodern yr Alban. Mae'r 'di-wifr' yn llydan o 'ngwmpas, diolch byth! Ac mae'r baned cystal bob tamed hefyd! Yr wythnos yma dw i wedi bod yn Amgueddfa Kelvingrove yn rhoi gwybod i Fforwm y Curiaduron be 'di fy rôl a ngwaith. Yr wythnos yma hefyd, dw i wedi bod yng Nghanolfan Adnoddau Amgueddfa Glasgow, yn cyfarfod chwaneg o bobl ac yn cael sbec i weld beth sydd ganddyn nhw'n newydd. Dim ond pythefnos yn fy ngwaith newydd, ac hyd yma, dw i wrth fy modd!

Dyma'r ail breswyliad yn yr Alban, wedi'r arbenigwraig wiciaidd Ally Crockford. Cytundeb bwlyddyn sydd gen i a hynny efo Galeriau ac Amgueddfeydd yr Alban. Bydd fy swydd yn llawn rhwydweithio (fel Prosiect Rhwydweithio Pat Hadley yn Swydd Efrog) a bwriadaf gydweithio efo llawer o gyrff a sefydliadau dros yr Alban benbaladr! Dwi'n andros o gyffrous am y peth!

Dw i 'di byw yn Glasgow ers diwedd y 1990au, a phleser pur ydy siarad am gynnwys a gwybodaeth agored efo sefydliadau dw i'n eu nabod mor dda dros y blynyddoedd, yn enwedig Amgueddfa Kelvingrove. Dw i'n edrych ymlaen hefyd i ymchwilio i gasgliadau Prosiect Kelvin Hall, sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd, gan edrych sut y gallan nhw gyfoethogi'r gwyddoniadur. Mae na sawl sgwarnog arall, yn barod, wedi codi ei ben, a fydd efallai'n arwain at nifer o sefydliadau eraill, fel ein bod yn dechrau meithrin partneriaeth newydd rhwng y rhain a Wicimedia. Mi rof wybod i chi sut mae pethe'n mynd...




Prifysgol Abertawe a Merched yr Oesoedd Canol
Swansea University Prifysgol Abertawe Edit-a-thon Ionaw 2015 1.JPG


Ysgrifennwyd y blog hwn gan yr Athro Deborah Youngs a'r Dr Sparky Brooks, Prifysgol Abertawe
6 Chwefror 2015‎

Ar yr 28ain Ionawr, 2015, bu'r ddau ohonom yn gyfrifol am Olygathon cyntaf mewn prifysgol yng Nghymru, gyda'r nod o wella erthyglau ar ferched ar Wicipedia. Canolbwyntiwyd ar leihau'r gwahaniaeth enbyd rhwng y ddau ryw ar Wicipedia - o ran cynyddu'r wybodaeth ar ferched yn yr Oesoedd Canol a chynyddu'r nifer o ferched sy'n golygu.

Yr ysbrydoliaeth y tu ôl i'r digwyddiad oedd sgwrs gyda Robin Owain ar sut i godi proffil merched o Gymru ar Wicipedia. Ar y pryd, roeddem yma ym Mhrifysgol Abertawe newydd gychwyn ymchwil bedair blynedd ar ferched yn yr Oesoedd Canol - a pha mor hawdd oedd hi'r adeg honno iddyn nhw gael cymorth yn eu hymwneud â byd y gyfraith yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon (1100-1750) wedi'i ariannu gan AHRC. Roedd Robin wedi gweld y ddwy ohonom mewn cyfweliad am y prosiect ar raglen Wales Today gan y BBC a chredodd y byddai ychwanegu gwybodaeth a ddaw o'r prosiect ar Wicipedia yn beth da, ac yn addas ar gyfer golygathon.

Rydym yn awyddus i wella'r cynnwys am ferched mewn hanes, a chanolbwyntiwyd yn y golygathon ar Gymru a'r Iwerddon, gan mai dyna brif faes ein prosiect. Roedd paratoi ar gyfer y diwrnod yn agoriad llygad! Buan y sylweddolem nad oedd erthyglau ar rai ferched nodedig. Roedd hi'n gryn sioc nad oedd erthyglau'n bodoli ar Jane Dee, gwraig John Dee, yr athronydd Elisabethaidd neu Sanana ferch Caradog, gwraig Gruffudd ap Llywelyn Fawr. Roedd erthyglau enfawr ar eu gwŷr, wrth gwrs! Ar y llaw arall, roedd hi'n galonogol iawn gweld fod gan rai merched erthyglau swmpus, amdanynt a digonedd o gyfeiriadau solad ynddynt. Ceisiwyd gwella rhai erthyglau a oedd yn bodoli'n barod; roedd rhai wedi'u creu gan unigolion ac eraill mewn golygathonau tebyg e.e. Gormflaith ingen Murchada.

darllenwch ragor o'r erthygl yma...