Cy Blog Archives 2

From Wikimedia UK
Jump to navigation Jump to search

<- Dychwelyd i'r dudalen gyfoes

Archif 2014
Tudalen wedi'i harchifo yw hon.


Llyfrgell Genedlaethol Cymru'n Penodi Wicipediwr Preswyl llawn amser
Jason Evans, Wicipediwr Preswyl yn y Llyfrgell Genedlaethol

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi penodi Wicipediwr Preswyl ar eu staff, yn llawn amser am gyfnod o flwyddyn. Mae hyn yn dilyn penodi Marc Haynes fel Wicipediwr Preswyl ychydig yn ôl yn y Coleg Cymraeg.

Ers Awst 2008, cafwyd partneriaeth anffurfiol rhwng Wicipedia a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a thros y blynyddoedd sylweddolwyd mai'r un oedd eu nod: rhoi lluniau, sgans o lawysgrifau, fideos a gwybodaeth eraill am Gymru a'i diwylliant ar drwydded agored fel eu bont i'w cael ledled y byd h.y. ehangu'r mynediad i drysorau'r Llyfrgell. Yn y flwyddyn diwethaf mae'r Llyfrgell wedi rhoi tua 5,000 o hen ffotograffau ar drwydded agored Comin creu (Creative Commons).

Mae'r Wicipedia gwreiddiol yn 14 oed heddiw (15 Ionawr) ac yn mynd o nerth i nerth. Wicipedia Cymraeg (sydd bron yn 12 oed!) yw'r wefan Gymraeg fwyaf poblogaidd gyda chyfartaledd o 2.4 miliwn o dudalennau'n cael eu hagor yn fisol. Ceir dros 280 o wicis mewn ieithoedd eraill a bydd y bartneriaeth hon rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a Wici Cymru yn cynnig llwyfan arall i drysorau'r genedl.

Dywedodd Elfed Williams, Cadeirydd Wici Cymru, 'Rydym yn ymfalchio yn y Llyfrgell Genedlaethol am y modd mae wedi cofleidio'r byd digidol a gwybodaeth agored. Ymfalchiwn hefyd yng ngwaith mae Wikimedia UK yn ei wneud yng Nghymru.' Yn ôl Robin Llwyd ab Owain, Rheolwr Wikimedia yng Nghymru, 'Mae llawer o lyfrgelloedd yn wynebu problemau enbyd ledled y byd, ond yng Nghatalonia, mae'r genedl gyfan wedi sylweddoli grym Wicipedia ac yn ei defnyddio fel cefnfor fawr o wybodaeth - a llwyfan i'r wybodaeth honno. Braf ydy gweld Cymru hefyd ar flaen y gad - yn datblygu yn hytrach nac yn ffosileiddio - ac mae llawer o'r diolch i weledigaeth pobl fel yr Athro Aled Gruffydd Jones a'r Dr Dafydd Tudur.'

Bydd y Wicipediwr Preswyl, Jason Evans o Aberystwyth, sy'n llyfrgellydd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn dechrau yn ei waith ar 19 Ionawr 2015.




Ychydig eiriau gan ein Prif Weithredwr newydd
Sgwennwyd y blog hwn gan D'Arcy Myers, Prif-weithredwr mewn gofal Wikimedia UK

Fel Prif-weithredwr Wikimedia UK carwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i wirfoddolwyr a staff yr FDC am eu gwaith yn asesu'r cais am nawdd blynyddol. Deallaf fod gwaith aruthrol wedi'i wneud, ac rydym yn ddiolchgar iawn am y gofal a'r ystyriaeth ddwys sydd wedi mynd i mewn i argymhellion yr FDC.

Er ein bod yn siomedig nad ariennir ein cais yn llawn, gwyddom fod y sialensau sy'n ein hwynebu yn y DU wrth i ni symud ymlaen gyda'r arweinyddiaeth newydd yn fawr ac rydym hefyd yn ymwybodol o'r angen i arian yr FDC gael ei weld yn cael ei ddefnyddio mor effeithiol â phosibl.

Rydym ar hyn o bryd yn gweithio i wella effeithiolrwydd y rhaglenni rydym yn eu cefnogi, ac yn deall yn iawn mai drwy gydweithio gyda'n gwirfoddolwyr yn unig mae gwireddu ein hymdrechion o symud i lefel uwch o greu impact elusennol yn natblygiad mudiad Wikimedia. Yn ogystal â rhannu ein profiadau a chefnogi mudiadau eraill, pan fedrwn, rydym wastad yn agored i ddysgu o brofiad ac awgrymiadau eraill, gan gynnwys yr FDC. Diolch eto.


Darllenwch ragor yma


'Budd enfawr i'r ddwy ochr...' John Byrne Wicipediwr Preswyl yn y Gymdeithas Frenhinol
Crynodeb o flog am John Byrne gan Joe Sutherland
John Byrne.jpg

Sefydlwyd y Gymdeithas Frenhinol yn 1660 gyda'r nod o gofnodi a hyrwyddo arbenigedd gwyddonol. O'i chanolfan yn Llundain, dyma brif academi Gwyddoniaeth Cymru a Lloegr; mae'n ymhyfrydu fod ynddi amrywiaeth eang o arbenigedd drwy feysydd gwyddonol eang ei chymrodyr. Y gymdeithas gyfatebol yn yr Alban yw 'Cymdeithas Frenhinol Caeredin'. Er bod ei gwreiddiau'n ddwfn yn y gorffennol - a chrud gwyddoniaeth - mae ei haelodau (neu 'gymrodyr') yn frwd dros ehangu'r gorwelion digidol. Yn 2014 fe'i gwahoddwyd yn ôl i ailafael yn y gwaith.

Yn niwedd 2006, penodwyd John Byrne yn Wicipediwr Preswyl, am gyfnod o chwe mis. Yng Nghymru, yn 2014, cafwyd Wicipediwr yn y Coleg Cymraeg, sef Marc Haynes.

Yn ôl John, mae'r Gymdeithas yn gweld ei hun fel cynrychiolydd blaengar y byd gwyddonol, yn llygad y cyhoedd. Mae hynny'n creu sialens, a chais y gymdeithas boblogeiddio gwyddoniaeth mewn modd syml drwy gynnal darlithoedd ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol ac mae'n cynnig gwobrau am lyfrau gwyddonol. A dyna sut maen nhw'n edrych ar Wicipedia,' meddai John, 'gan fod Wicipedia wedi'i greu'n arbennig ar gyfer darllenwyr cyffredin ac ysgolhaig.'

Yn ystod ei gyfnod gyda'r Gymdeithas Frenhinol, trefnodd John nifer o ddigwyddiadau ar gyfer y cyhoedd ac ar gyfer academia. Cawyd sawl gweithdy a sawl sesiwn hyfforddi sgiliau Wicipedia, a chafwyd cymorth Wicipewyr cyffredin yn hyn o beth, ac roedd hynny'n wych. 'Fe wnaethom sesiynau am y pwysigrwydd o ryddhau delweddau da a thanysgrifiodd sawl Wicipeiwr am gyfnodolion y Gymdeithas. A dyma fudd i'r ddwy ochr: i'r Gymdeithas ac i Wicipedia.'

Mae John yn ymhyfrydu yn y ffaith iddo gynorthwyo i gryfhau Diwrnod Ada Lovelace yn 2012 a chodi proffil gwyddonwyr benywaidd yn gyffredinol drwy ddatblygu erthyglau ar y gwyddoniadur ar-lein mwya'r byd.

Darllenwch ragor yma




Cystadleuaeth Rijksmonument
Sgwennwyd y blog hwn gan Robin Owain, Rheolwr Wikimedia yng Nghymru
Cy 350px-LUSITANA WLM 2011 d.svg.png

Cystadleuaeth ffotograffiaeth a gynhelir yn flynyddol ydy Cystadleuaeth Rijksmonument, Cystadleuaeth Wici-henebion, neu Wiki Loves Monuments a gaiff ei gweinyddu bob mis Medi. Cychwynwyd y gystadleuaeth yn yr Iseldiroedd yn 2010, ond ymledodd drwy Ewrop yn sydyn iawn ac o fewn blwyddyn, yn ôl y Guinness Book of Records, dyma oedd y gystadleuaeth tynnu lluniau fwyaf drwy'r byd.

Eglwys St. Margaret, Bodelwyddan; llun a dynais y tu allan i'r eglwys gyda chamera eitha cyffredin.

Bydd y lluniau rydych yn eu huwchlwytho'n cael eu gweld gan filoedd o bobl - yn wir, mae 400 miliwn o bobl yn troi at Wicipedia pob mis - a 2.4 miliwn o dudalennau'n cael eu hagor ar y Wicipedia Cymraeg! Does dim ots pa bryd y cymerwyd y lluniau cyn belled a'u bod yn cael eu huwchlwytho ym mis Medi. Byddwch yn cadw hawlfraint y lluniau, a bydd pob llun yn cynnwys eich enw, neu eich enw defnyddiwr, os dymunwch hynny.

Y llynedd uwchlwythwyd 1,748 o luniau o Gymru, a daethom yn ail drwy wledydd Prydain. Gallwch weld y lluniau yn y fan yma. I weld y cyfarwyddiadau sut i'w huwchlwytho ynghyd a'r rheolau, trowch atom ar wefan Cystadleuaeth Wici-henebion yma. Roedd 40 o wledydd yn y ras y llynedd, mewn chwe chyfandir, ac uwchlwythwyd dros 360,000 o ffotograffau.

Mae llawer o'r lluniau'n cael eu tadogi i erthyglau ar Wicipedia: mew cymaint a 270 o ieithoedd wici!

Ôl Nodyn: Yn 2014 uwchlwythwyd 1,431 o Gymru, sef 20% o'r holl ffotograffau a ddaeth drwy wledydd Prydain!




Wicimedia yng nghalon addysg
Dr Martin Poulter, Jisc Wikimedia Ambassador
Sgwennwyd y nodyn hwn gan y Dr Martin Poulter, Llysgennad Wicimedia Jisc

Pe baech yn defnyddio Wicipedia i ddarllen yr erthygl ar sodiwm clorid, yn edrych ar ysgerbwd fflamingo, neu'n ymchwilio i Gost y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol, yna mi fasech yn elwa'n fawr o gynnwys addysgol sy'n cael ei rannu rhwng academyddion a sefydliadau cenedlaethol.

Dros y flwyddyn diwethaf, rwyf wedi bod yn gweithio gyda Jisc, yr elusen genedlaethol sy'n darparu arbenigedd ar decholeg digidol ar gyfer y byd addysg gan ymchwilio sut y gall academia a Wicimedia weithio'n nes at ei gilydd. O fy swyddfa ym Mhrifysgol Briste, rwyf wedi estyn fy llaw at ddarlithwyr, llyfrgellwyr a staff eraill ar hyd a lled gwledydd Prydain, gan gynnal digwyddiadau a chreu dofennau i'w cynorthwyo. Bu'r amser hwn hefyd yn gyfle da i mi archwilio meddylfryd yr arbenigwyr hyn parthed Wicipedia a'i chwaer brosiectau.

Er fod safleoedd Wicimedia'n ceisio gwella'r mynediad a'r hygyrchedd i'r safleoedd hynny, mae eu cymhlethdod anorfod a chanllawiau tameidiog yn faen tramgwydd i olygyddion newydd. Ar y llaw arall ceir canllawiau arbennig o dda sydd angen eu hyrwyddo'n well, megis Y Maes Llafur: Aseiniad 12 wythnos i ysgrifennu erthygl ar Wicipedia, Hanfodion Hyfforddwyr: Sut i ddefnyddio Wicipedia fel arf addysgol, Gwerthuso Wicipedia sydd ar gael yn Gymraeg neu expert outreach portal a guidance for new users sydd ar gael yn Saesneg.

Rwyf wedi ceisio canolbwyntio ar dair agwedd o'r gwaith: defnyddio Wicipedia o fewn y byd addysg, hyrwyddo cynnwys casgliadau megis archifau delweddau ac ehangu'r ymchwil i effaith neu impact Wicipedia. Dyma'r astudiaethau achos rwy' wedi'u sgwennu:

  1. Cael myfyrwyr i wella cynnwys Wicipedia
  2. Cyhoeddi papurau academaidd ar Wicipedia i gael credyd cwrs
  3. Defnyddio polisiau Wicipedia yn y stafell ddosbarth i hyrwyddo llythrennedd digidol.




Chwech wythnos yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
gan Marc Haynes, Cydlynydd Wicipedia yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Marc Haynes

Ym mis Mawrth, ar ôl golygu Wicipedia ers sawl blwyddyn dan y ffugenw Ham, dechreuais gyfnod cyffrous newydd fel Marc (Coleg Cymraeg Cenedlaethol). Dyna ddechrau fy chwe mis fel Cydlynydd Wicipedia y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd â’r genhadaeth o gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg ym mhrifysgolion ledled y wlad. Hwn yw’r prosiect Wicipediwr Preswyl cyntaf yng Nghymru, sy’n anrhydedd arbennig, ac yn un o’r ychydig rai nad sydd mewn sefydliad GLAM (oriel, llyfrgell, archifdy neu amgueddfa) – er i fi ddarganfod bod gan y Coleg archif sylweddol o gynnwys addysgiadol yn y Gymraeg. Hyd yn hyn rwy' wedi bod yn archwilio’r posibiliadau o osod cynnwys a ddatblygwyd gan y Coleg dan drwydded agored, a fyddai’n caniatáu iddo gael ei ail-ddefnyddio ar Wicipedia.

Dechreuodd y gwaith ar adeg hynod o ffodus, am i Lywodraeth Cymru gyhoeddi adroddiad yn hwyrach yn y mis yn annog ein prifysgolion i fabwysiadu adnoddau addysgol agored. Mae’r Coleg yn un arall o’n sefydliadau cenedlaethol sy’n cefnogi diwylliant agored, i ychwanegu at y sawl sydd wedi’u trafod eisoes ar y blog hwn.

Rwy wedi bod yn y swydd ers chwech wythnos bellach, ac wedi dod o hyd i lwyth o ddeunydd a fyddai’n rhoi hwb i gynnwys y Wicipedia Cymraeg mewn pynciau megis daearyddiaeth, ffilm, teledu a drama. Darnau o destun a fyddai’n addas i’w trosglwyddo i erthyglau Wicipedia yn hytrach na ffeiliau cyfryngau ar gyfer y Comin rwyf i wedi ei ddarganfod gan fwyaf, er bod sawl clip fideo hefyd y byddaf yn gobeithio eu rhoi ar y Comin. Bydd y gwaith trosglwyddo hwn, unwaith rwyf wedi cael caniatâd i’w wneud, yn cael ei hysbysu ar y dudalen prosiect ar Wicipedia wrth iddo ddigwydd.

Yn y cyfamser, mae dal angen gwneud y rhan pwysicaf o swyddogaeth Wicipediwr Preswyl, sef cynnal y digwyddiadau a fydd yn cyflwyno cyfranwyr newydd ac yn sefydlu perthynas hirbarhaol rhwng myfyrwyr ac academyddion y Coleg, ar y naill law, a Sefydliad Wikimedia ar y llall. Bydd hyn yn sialens, ond mae’n un rwy’n edrych ymlaen ato.




Torfoli - hanfod Wici!
Sgwennwyd y blog hwn gan Dr Martin Poulter, Llysgennad Jisc Wicimedia
Wikimedia logo family complete-2013.svg

Er mwyn i ni ddylanwadu ar sefydliadau addysgol, mae'n rhaid i ni fedru siarad eu hiaith nhw ac mae'n rhaid i ni roi gwybodaeth yn y llefydd mae nhw'n chwilio amdano.

Mae'r "Jisc infoKits" (neu "becyn gwybodaeth") yn llyfrynnau arlein ar gyfer rheolwyr, technegwyr a staff eraill Addysg Uwch a Phellach. I'r fangre hon y daw'r pobl hyn am gyngor am gyfrifiadura Cwmwl, Rheoli Rhaglenni, Gofod Addysgu ac yn y blaen. Mae na becyn gwybodaeth newydd sbon danlli dw i wedi'i sgwennu fel rhan o fy ngwaith gyda phartneriaeth Jisc/Wicipedia.

“Torfoli: hanfod y wici!” yw ei enw ac mae'n egluro sut y gall pobl broffesiynol a gwirfoddolwyr gydweithio i greu deunydd cyfeiriadu (reference materials) ar gyfer addysg neu ymchwil.

Fel pob pecyn gwybodaeth, gellir ei ddarllen o'r dechrau i'r diwedd neu drwy ddethol rhannau - yn esiamplau byrion neu'n astudiaethau achos. Mae'n cyrraedd ei anterth mewn trafodaeth ar y manteision o rannu casgliad o ffotograffau a chyfryngau eraill ar Gomin Wicimedia. Mae diwedd pob adran yn crynhoi'r negeseuon a ddysgwyd.

Deg mil o eiriau'n unig sydd i'r pecyn gwybodaeth, a dim ond bras gyffwrdd yn swil y mae dros nifer helaeth o bynciau. Does na ddim un ateb perffaith i dorfoli, ond mae na lawer o wersi y gellir eu dysgu o un o'r prosiectau torfol mwyaf (a mwyaf amlwg) erioed: Wicipedia!

Darllenwch ragor yma


Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i benodi Cydlynydd Wicimedia
Sgwennwyd y blog hwn gan Robin Owain, Rheolwr Wicimedia DU (Cymru)
Animated-Flag-Wales.gif

Yn dilyn cytundeb gyda'r Coleg Cymraeg i ran-ariannu swydd ar sail swyddog preswyl, mae'r Coleg yn dymuno penodi unigolyn i ymuno â thîm swyddogion canolog y Coleg am gyfnod o 6 mis fel Cydlynydd Wicipedia. Bydd y Cydlynydd yn gyfrifol am asesu cynnwys addysgol y Coleg a chynghori ar sut orau y gellir ei rannu ar lwyfannau Wicimedia (gan gynnwys Wicipedia). Hyderir y gwelwn sefydlu a datblygu perthynas gynaliadwy rhwng y Coleg, Wicimedia DU, Wici Cymru a'r gymuned Wicimedia trwy ystod o weithgareddau.

Mae hwn yn gam mawr i'r coleg - dim ond yr ail goleg drwy'r byd i gyflogi Cydlynydd Wicimedia (neu Wikipedian in Residence), gan mai mewn galeriau, amgueddfydd a llyfrgelloedd y gwelir y rhan fwyaf o gydlynwyr. Gellir canfod y manylion ar wefan y Coleg yma. Disgwylir y bydd gan y sawl a benodir gefndir academaidd gadarn, dealltwriaeth dda o faterion yn ymwneud â hawlfraint ac eiddo deallusol a dealltwriaeth o genhadaeth a gweithgareddau Wicimedia a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae profiad o waith trefnu a chydlynu, cynnig hyfforddiant a chymorth i staff academaidd yn ogystal a golygu deunydd ar safleoedd Wici yn angenrheidiol hefyd yn fanteisiol.

Mae llawer o waith caled wedi digwydd gan y Coleg a Wicimedia yn ystod y misoedd diwethaf. Mae na dir cyffredin cadarn yng ngweledigaeth y ddau gorff: ychwanegu at “gyfanswm gwybodaeth yr hil ddynol” a sicrhau mynediad rhwydd ac am ddim i'r wybodaeth honno - yn iaith y darllenwr. Mae Wicipedia ar gael mewn dros 280 iaith; yr Wicipedia Cymraeg ydy'r wefan Gymraeg mwyaf poblogaidd drwy'r byd, gyda dros 2.3 miliwn o dudalennau'n cael eu hagor pob mis.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf cafwyd camau breision ac avant-garde gan y Llyfrgell Genedlaethol yn rhyddhau llawer o'u ffeiliau (lluniau, ffotograffau ayb) ar drwydded agored, yn ogystal a chan Lywodraeth Cymru. Mae'r bartneriaeth newydd hon gyda'r Coleg yn cadarnhau fod Cymru'n wlad blaenllaw iawn o ran cynnwys rhydd ac agored.



100,000 o hen ffotograffau - am ddim i bawb!
Ysgol Gymraeg yn Ashford, Middlesex yn 1857.

Mae Wellcome Images wedi rhyddhau 100,000 o'u hen ffotograffau ar drwydded agored CC-BY! Dyma gasgliad amrywiol iawn: o hen femrynau i ysgythriadau gan Van Gogh a Goya a fydd yn hynod ddefnyddiol i'w hychwanegu ar erthyglau'r Wicipedia Cymraeg a ieithoedd eraill. Ar dudalen y ffotograff, mae'n hanfodol ein bod yn nodi mai o gasgliad Wellcome Images y dont.

Mae Wikimedia UK yn llongyfarch Wellcome Images am fod mor ddewr a caniatáu i'r byd cyfan eu defnyddio dan y drwydded agored hon. Nid ydyn nhw wedi cau'r drws ar hanner y byd drwy roi trwydded "Non-Commercial" (NC) arnyn nhw! Carem annog sefydliadau Cymru a gwledydd eraill Prydain i ddilyn ôl eu traed. Am ragor o wybodaeth ebostiwch Jonathan Cardy (jonathan.cardy@wikimedia.org.uk).

Mae rhai o'r lluniau wedi'u huwchlwytho'n barod ar erthyglau'r Wicipedia Cymraeg. Cymerwch gipa ar yr erthygl ar lwyth y Navaho. Ffotograff arall yw'r un uchod o Ysgol Gymraeg yn Ashford, Middlesex; efallai yr Ysgol Gymraeg fwyaf y tu allan i Gymru erioed?

Darllenwch ragor yma



<- Dychwelyd i'r dudalen gyfoes