Celtic Knot Conference 2018/Submissions/BRICKS FOR MINORITY LANGUAGES: CLUSTERING AROUND LITERATURE

From Wikimedia UK
Jump to navigation Jump to search
Title of the submission/Teitl eich bapur
BRICKS FOR MINORITY LANGUAGES: CLUSTERING AROUND LITERATURE / Briciau ar gyfer Ieithoedd Lleiafrifol: Clystyru o Amgylch Llenyddiaeth
Type of submission/Math o bapur
Presentation
Author of the submission/Awdur y papur
Iñaki Lopez de Luzuriaga
Affiliation/cysylltiadau
Basque Wikimedia user group
Abstract/Crynodeb

The Basque Wikimedians User Group has detected breeding grounds for Wikipedia in its cultural and community network. The dynamics of a minority language provides niches and a myriad of opportunities for cooperation and growth.

One such opportunity came for us in the need to offer visibility to the not very well known local writers and their literary products, when relevant enough. A Resident Wikipedian was assigned to the task of recording writers’ voices, searching for materials related to the authors and their works, and releasing licenses of books by talking to the publishers and submitting OTRS. This has also resulted in the ‘adoption’ of local literature writers by librarians of Donostia’s public library network. The model of cooperation with local librarians in Donostia garnered the attention of public cultural institutions in the French Basque Country (Uztaritze), and Basque Wikimedians.

This focus on literature extended to the students of the School of Education in the public university UPV-EHU, appointed with the task of enriching the Wikipedia with Basque children literature authors, books, and significant characters found in them. This program further progressed during autumn 2017 and winter 2018 in the framework of the agreement reached with the Basque Government in late spring that year.

The Education Program has afforded the opportunity to expand its close list of 50 must-have universal literature topics in Wikipedia. The Association of Translators, Correctors and Interpreters of the Basque Language, EIZIE, has joined in, interested as it is in the diffusion of translated universal literature, and cooperation is underway between different agents to visualize it. This is initiative is taking place now.

Mae Grŵp Defnyddwyr Basque Wikimedians wedi dynodi posibiliadau i ehangu i Wicipedia o fewn ei rhwydwaith diwylliannol a chymunedol. Mae deinameg iaith leiafrifol yn darparu cilfachau arbenigol a myrdd o gyfleoedd ar gyfer cydweithredu a thyfu. Daeth un cyfle o’r fath i ni oherwydd yr angen am gynnig gwelededd i’r awduron hynny sydd heb fod yn enwog iawn, a’u cynnyrch llenyddol, pan maent yn ddigon perthnasol. Rhoddwyd y dasg o recordio lleisiau awduron, chwilio am ddeunydd sy’n berthnasol awduron a’u gweithiau a rhyddhau trwyddedau llyfrau trwy siarad gyda chyhoeddwyr a chyflwyno OTRS. Canlyniad arall yw bod ysgrifenwyr llenyddiaeth leol yn cael eu mabwysiadu gan lyfrgellwyr rhwydwaith cyhoeddus Donostia . Mae’r model hwn o gydweithredu gyda llyfrgellwyr lleol yn Donostia wedi dod i sylw sefydliadau diwylliant cyhoeddus yng Ngwlad y Basg Ffrengig (Uztaritze), a Wikimediaid Basgeg. Mae’r ffocws hwn ar lenyddiaeth wedi ymestyn at fyfyrwyr yr Ysgol Addysg yn y brifysgol gyhoeddus UPV-EHU, sydd yn gyfrifol am gyfoethogi’r Wicipedia gydag awduron, llyfrau a phrif gymeriadau mewn llenyddiaeth Basgeg plant. Datblygodd y rhaglen hon ymhellach yn ystod hydref 2017 a gaeaf 2018 o fewn fframwaith y cytundeb y cytunwyd arno gyda Llywodraeth Gwlad y Basg yng ngwanwyn hwyr y flwyddyn honno. Drwy’r Rhaglen Addysg crëwyd cyfle i ehangu ei rhestr ddethol o’r 50 o destunau llenyddiaeth byd-eang mwyaf dewisol yn Wicipedia. Mae Cymdeithas Cyfieithwyr, Cywirwyr a Dehonglwyr yr Iaith Fasgeg, EIZIE, wedi ymuno â hyn oherwydd ei diddordeb mewn rhannu llenyddiaeth fyd eang sydd wedi’i gyfieithu, ac mae’r cydweithredu ar waith rhwng gwahanol asiantaethau er mwyn dod â’r weledigaeth yn fyw. Mae’r fenter hon yn digwydd ar hyn o bryd.

Biography/Bywgraffiad

Iñaki Lopez deLuzuriaga is a translator, lives in Donostia (San Sebastián), specializes in everyday translation projects and language teaching (Basque, French, Spanish). He taught Basque in the London Basque Society (2009-2011), lectured as Basque and Spanish language instructor at Stanford University (2011-2013). He has worked with San Telmo Museoa in a number of exhibitions, also spending there 6 months as a Wikipedian in Residence during 2016. He has written a book on Basque medieval history with UEU, the Basque Summer University. He has been active in the Basque and English WP for 10 years, board member of the Basque Wikimedians User Group, nowadays involved in the Basque Education Program contributing with presentations, workshops, translations and assistance.


Mae Iñaki Lopez deLuzuriaga yn gyfieithydd, sy'n byw yn Donostia (San Sebastián), yn arbenigo mewn prosiectau cyfieithu bob dydd ac addysgu iaith (Basgeg, Ffrangeg, Sbaeneg). Bu'n dysgu Basgeg yng Nghymdeithas Basgeg Llundain (2009-2011), yn ddarlithydd fel hyfforddwr iaith Basgeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Stanford (2011-2013). Mae wedi gweithio gyda San Telmo Museoa mewn nifer o arddangosfeydd, a hefyd wedi treulio 6 mis yno fel Wicipediwr Preswyl yn ystod 2016. Mae wedi ysgrifennu llyfr ar hanes canoloesol Basgeg gydag UEU, Prifysgol Haf y Basg.

Bu'n weithgar yn y WP Basgeg a Saesneg am 10 mlynedd, aelod Bwrdd o Grŵp Defnyddwyr Wikipediwyr y Basgeg. Erbyn heddiw mae’n rhan o Rhaglen Addysg Basgeg gan gyfrannu cyflwyniadau, gweithdai, cyfieithiadau a chymorth.